Ein Ymrwymiad Cymraeg
Yn Itec credwn fod y Gymraeg yn sgil gwerthfawr yn y gweithle, nawr ac i’r dyfodol. Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant, gan gefnogi’n rhagweithiol uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rydym yn cefnogi’r amcan hwn drwy ein hymrwymiad i:
- Hyrwyddo manteision y Gymraeg a diwylliant Cymru i’n holl ddysgwyr, cyflogwyr a gweithwyr ar draws ein rhaglenni yng Nghymru.
- Annog ein gweithwyr a’n dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
- Rhoi cyfle i ddysgwyr gwblhau eu cymhwyster yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
- Darparu lleoliadau gwaith Cymraeg.
- Hyrwyddo diwylliant Cymru drwy ein cwricwlwm a diwrnodau ymwybyddiaeth.
Rydym yn gweithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu gallu yn y Gymraeg. Nod y Coleg Cymraeg yw creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg yma.
Cyfleoedd Aprentisiaeth Ar Gael
Prentisiaeth Darpariaeth Ddwyieithog Gymraeg Ar Gael
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol- Lefel 2 a 3
Darperir gan ein partneriaid
Pengwin
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdaeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
Lleoliadau danfoniad: De Cymru
URDD
- Lefel 2 Arweinyddiaeth Gweithgareddau (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
- Lefel 3 Datblygiad Chwaraeon (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
- Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
- Lefel 3 Cefnogi Dysgu yn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (Cymraeg)
- Lefel 3 Rhaglenni Awyr Agored (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
- Lefel 2 a Lefel 3 Gwaith Ieuenctid (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
Lleoliadau danfoniad: Dros Cymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gymwysterau nad ydynt wedi’u rhestru uchod, anfonwch e-bost at enquiries@itecskills.co.uk
Swyddog Iaith Gymraeg
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag astudio yn Gymraeg cysylltwch â’n Swyddog Iaith Gymraeg, Angharad.
Manteision
Mae llawer o fanteision i wneud prentisiaeth neu gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda rhai ohonynt yn cynnwys:-
- Yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd newydd
- Mae’r Gymraeg yn sgil gwaith gwerthfawr o fewn y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru
- Eich helpu i archwilio ac ymgysylltu â’ch cymuned leol
- Gall deall dwy iaith fod yn fuddiol neu’r ymennydd
- Gallwch chi fod yn rhan o ddau ddiwylliant
- Mae galw cynyddol am bobl sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog
Astudiaethau Agos
I ddarllen rhai straeon ysbrydoledig am bobl sy’n astudio ac yn defnyddio’r Gymraeg, cliciwch ar y ddolen isod.
Adnoddau
Gallwch gael mynediad at ddetholiad o adnoddau Cymraeg trwy glicio ar y ddolen isod.
Mae adnoddau yn cynnwys:-
- Cyrsiau am ddim
- Dolenni defnyddiol
- Apiau a Meddalwedd
- Adnoddau i’w Lawrlwytho