Mae Itec yn darparu Cynllun Ailddechrau’r Adran Gwaith a Phensiynau ar ran Serco yng Nghymru, i helpu unigolion yn ôl i waith
Bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi cymorth ychwanegol i unigolion yng Nghymru sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn yr IWSR* (am o leiaf 9 mis) i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol.
Rydym yn darparu cymorth wedi’i deilwra i unigolion yn Ne Cymru yn yr IWSR sydd wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Rydym wedi ymrwymo i ddeall eich amgylchiadau personol, eich nodau a’ch dyheadau i’ch helpu i chwalu rhwystrau a symud ymlaen i ddod o hyd i waith cynaliadwy.
Gall ein tîm o arbenigwyr cyflogadwyedd helpu yn y ffyrdd canlynol:
- Darparu cefnogaeth 1:1
- Mynediad i hyfforddiant a chymwysterau
- Cyngor ar faterion dyled a rheoli arian
- Sgiliau a magu hyder
- Gweithdai CV a chyfweliad
- Cefnogaeth gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol
- Gwella canlyniadau chwilio am swydd
- Darganfod a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy
- Darparu cefnogaeth barhaus i chi a’ch cyflogwr trwy ystod o gyfleoedd uwchsgilio a datblygu
Cymhwysedd
I fod yn gymwys rhaid i’r unigolyn:
- Wedi bod ar Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith am 9 mis neu fwy yn olynol
- Bod yn y Gyfundrefn Chwilio am Waith Dwys ar y pwynt atgyfeirio
- Heb unrhyw enillion parhaus ar y pwynt atgyfeirio
- Meddu ar yr hawl i weithio yn y DU
- Yn byw yng Nghymru neu Loegr
- Fod o oedran gweithio
- Ddim yn cymryd rhan mewn Darpariaeth Cyflogaeth Gontract arall gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd
- Peidio â bod mewn Grŵp Rheoli neu Gymharydd Sector Cyhoeddus lle byddai cymryd rhan yn y rhaglen hon yn effeithio ar ddilysrwydd y grwpiau hynny
*Cyfundrefn Chwilio Gwaith Dwys