Prentisiaethau
Rydym yn darparu pecynnau hyfforddi deinamig a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion cyflogwyr a gweithlu Cymru.
Dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ystod o ddulliau arloesol ar gyfer darparu hyfforddiant, gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf ac adnoddau ar-lein i wella’r profiad dysgu a diwallu anghenion y cyflogwr a’r cyflogai.
Gwyddom i gyd fod Prentisiaethau’n gwneud synnwyr, ond a oeddech yn gwybod bod y manteision a ddaw yn eu sgil i’ch busnes yn enfawr.
Gwella eich llinell waelod
Mae prentisiaethau’n sicrhau gwelliant i’ch llinell waelod, gan eich helpu i wella cynhyrchiant a bod yn fwy cystadleuol. Gall hyfforddi Prentisiaid hefyd fod yn fwy cost-effeithiol na llogi staff medrus, gan arwain at gostau hyfforddi a recriwtio is.
Llenwi eich bylchau sgiliau
Mae prentisiaethau’n darparu sgiliau sydd wedi’u cynllunio o amgylch eich anghenion busnes, gan ddarparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol. Maent hefyd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i gadw i fyny â’r dechnoleg a’r arferion gwaith diweddaraf yn eich sector.
Ysgogi eich gweithlu
Mae prentisiaid yn tueddu i fod yn awyddus, yn frwdfrydig, yn hyblyg ac yn deyrngar i’r cwmni a fuddsoddid ynddynt. Cofiwch, mae Prentis gyda chi oherwydd eu bod eisiau bod efo chi – maent wedi gwneud dewis gweithredol i ddysgu yn y swydd ac ymrwymiad i yrfa penodol.
Mae’r gymysgedd o ddysgu yn y gwaith ac oddi wrth y gwaith yn sicrhau bod Prentis yn dysgu’r sgiliau sy’n gweithio orau i’ch busnes. Mae’r manteision y gall Prentisiaid eu cynnig i’ch busnes yn cynnwys mwy o gynhyrchiant, gwell cystadleurwydd a gweithlu cymwys.