Hyfforddiaethau
Helpwch ieuenctid heddiw, a’ch llinell waelod yfory.
Rhaglen datblygu sgiliau yw Hyfforddeiaethau, sydd hefyd yn cynnwys profiad gwaith. Mae hyfforddeiaethau yn helpu i baratoi pobl ifanc rhwng 19 a 24 yn barod am waith neu brentisiaeth. Rhaid i hyfforddeiaethau gynnwys o leiaf 70 awr o leoliad profiad gwaith. Gallant bara o 6 wythnos hyd at flwyddyn, ond mae’r rhan fwyaf yn para llai na 6 mis.
Fydd rhaid i gyflogwyr ddarparu:
- Lleoliad profiad gwaith diogel, ystyrlon ac o ansawdd uchel.
- O leiaf 70 awr o leoliad profiad gwaith dros gyfnod yr hyfforddeiaeth (os yw’r hyfforddai’n hawlio budd-daliadau, ni all y lleoliad bara mwy na 240 awr).
- Adborth a chyngor adeiladol i’r hyfforddai.
- Cyfweliad ar gyfer Prentisiaeth neu swydd yn eu sefydliad ar ddiwedd yr Hyfforddeiaeth os oes un ar gael.
- Cyfweliad ymadael ar ddiwedd yr Hyfforddeiaeth gydag adborth ysgrifenedig ystyrlon os nad oes swydd ar gael.
Mae cynnig lleoliad profiad gwaith yn rhoi cyfle i gyflogwyr:
- Ddod i adnabod a gweithio gyda pherson ifanc i weld a yw’n iawn am brentisiaeth neu swydd yn ei fusnes.
- Dylunio rhaglen sy’n addas i anghenion yr hyfforddai a’i fusnes.
- Datblygu profiad gweithwyr presennol o fewn hyfforddiant a mentora.
- Recriwtio talent newydd ar gyfer eu busnes.
- Hawlio cymhelliant cyflogwr o £1,000 pan fydd lleoliad profiad gwaith o dros 70 awr wedi’i gwblhau.
Gall cyflogwyr sy’n sicrhau bod cyfleoedd lleoliad gwaith newydd ar gael fod yn gymwys i gael taliad cymhelliant o £1,000 fesul dysgwr. Gallant hawlio’r cymhelliant hwn ar gyfer hyd at 10 dysgwr fesul rhanbarth. Gall cyflogwyr benderfynu sut i ddefnyddio’r arian.
Ar ôl cwblhau’r lleoliad gwaith bydd yn rhaid i gyflogwyr:
- Cynnig cyfweliad i’r hyfforddai ar ddiwedd y rhaglen os oes swydd neu brentisiaeth ar gael yn eu busnes.
- Darparu cyfweliad ymadael gydag adborth ysgrifenedig ystyrlon os nad oes swydd neu brentisiaeth ar gael.