Twf Swyddi Cymru +

Ewch â’ch busnes i’r lefel nesaf drwy dderbyn dysgwr Twf Swyddi Cymru +.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen newydd sbon sydd wedi’i dylunio i helpu pobl ifanc 16–18 oed i symud ymlaen i’r cam nesaf mewn bywyd.

Gall Twf Swyddi Cymru+ gynnwys treialon gwaith undydd, lleoliadau gwaith, Prentisiaethau, neu gyflogaeth uniongyrchol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i bobl ifanc i’w galluogi i symud ymlaen cyn gynted â phosibl i ddysgu ar lefel uwch neu i gyflogaeth.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn hyblyg a thrwy weithio’n agos gydag Itec, gallwch gynllunio rhaglen sy’n addas i’ch anghenion chi ac anghenion y person ifanc.

Bydd Twf Swyddi Cymru + yn cynnwys:

  • Hyfforddiant paratoi gwaith a ddarperir gan Itec
  • Cymorth Saesneg a mathemateg os oes angen
  • Profiad gwaith gwerthfawr a ddarperir gan eich cwmni
  • Lwfans hyfforddi wythnosol a delir i’r person gan Itec

Yn ogystal â’r elfennau sylfaenol hyn, gallwn ychwanegu cynnwys ychwanegol hyblyg i ddiwallu anghenion eich busnes a’r farchnad lafur lleol.

Gallwch wneud gwahaniaeth mawr drwy gefnogi person ifanc a all fod yn amhrisiadwy i’ch busnes yn y dyfodol. Mae gennym gronfa o bobl ifanc sy’n cael hyfforddiant gyda ni ar ein rhaglen Hyfforddeiaeth sydd angen profiad o’r gweithle. Mae’r bobl ifanc hyn yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, yn ogystal â’r agwedd gadarnhaol at waith sy’n ofynnol.

Mae nifer o fanteision profedig i ddarparu lleoliad gwaith i berson ifanc gan gynnwys:

  • Dim cost i’ch busnes
  • Ychwanegu sgiliau newydd at eich gweithlu
  • Rhoi cyfle i berson ifanc gael profiad gwerthfawr
  • Hyblygrwydd i ddiwallu eich anghenion busnes

Mae llawer o’r busnesau yr ydym yn gweithio gyda hwy wedi mynd ymlaen i gynnig swydd â thâl i’r unigolyn ac wedi adrodd yn gadarnhaol ar effaith cyflwyno ‘gwaed newydd’. Er bod hwn yn ddilyniant delfrydol i’r unigolyn ar leoliad, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i’w gyflogi ar ddiwedd ei leoliad.

Dyfyniad Dysgwr

“I’d like to say thank you for everything you have helped me with, I honestly have never felt so proud, I will really miss Itec when I leave to start my Apprenticeship in Health & Social Care at Ocean Day Nursery

If it wasn’t for Itec I wouldn’t have been able to achieve my goals”

–  Mariam 18 oed

Cysylltwch