Astudiaethau Achos Cymraeg

Mae ein hastudiaethau achos Cymraeg yn pwysleisio pwysigrwydd cofleidio a defnyddio’r Gymraeg, boed yn ddysgu neu’n rhugl, mae meddu ar sgiliau dwyieithog yn gallu agor llawer o ddrysau a chreu profiadau cadarnhaol. Rydym yn falch o rannu ein hanesion am ddysgwyr a staff sydd wedi elwa o ddefnyddio’r Gymraeg.

Dyma rai datganiadau a wnaed gan ein dysgwyr am eu profiadau yn dysgu gyda’r Gymraeg:

Rwyf wedi bod yn gweithio mewn tŷ gyda dau unigolyn. Mae un defnyddiwr gwasanaeth yn siarad Cymraeg fel ei iaith gyntaf. Mae’n deall ac yn siarad Saesneg. Mae fy nhaith gydag ef wedi bod yn brofiad bendigedig. Rwyf wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu’r pethau sylfaenol yn y Gymraeg ond ar ben hynny mae’r cleient hwn wrth ei fodd â’i gerddoriaeth. Trwyddo ef a’i gariad at gerddoriaeth rydw i wedi dysgu rhai o’r caneuon neu’r darnau hyn ohonyn nhw.

– Sandra, NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Rhoddodd y dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb a chefnogaeth fy nghydweithwyr yr hwb hyder yr oedd ei angen i mi geisio defnyddio fy Nghymraeg yn amlach yn y gwaith. Mae hyd yn oed rhai o’r unigolion rwy’n eu cefnogi yn fy helpu ar hyd y ffordd trwy ddechrau cyfathrebu â mi mewn Cymraeg syml.
– Clare, NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dechreuais i ddarparu gofal yn y gymuned a byth yn deall pwysigrwydd y Gymraeg tan ddarparu gofal i bobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
– Amanda, G Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cysylltwch