Iaith a diwylliant y Gymraeg yn Itec

Mae iaith a diwylliant Cymraeg yn bwysig i ni yn Itec ac rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig. Rydym yn annog ein holl staff a chwsmeriaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn Itec ac yn cynorthwyo ein staff a’n dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i’w cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u cyflogadwyedd, gan wneud pob ymdrech i ymgorffori’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ein rhaglenni.

Mae’r iaith Gymraeg yn sgil gwerthfawr nawr ac ar gyfer y dyfodol, mae gofyn mawr amdano gan gyflogwyr Cymraeg, gyda nifer o swyddi yn gofyn am wybodaeth a chymhwysedd yn yr iaith Gymraeg.

Rydym yn parhau i weithio tuag at wella ein gwasanaethau a’n hadnoddau i ddarparu cyfleoedd i’n dysgwyr ddysgu trwy’r cyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Darllenwch ein strategaeth ar gyfer iaith a diwylliant y Gymraeg isod.

Strategaeth Iaith a Diwylliant y Gymraeg