Hyfforddiaethau yn Loegr
Os ydych chi’n aflwyddiannus wrth wneud cais am gyfleoedd a phrentisiaethau oherwydd eich sgiliau a’ch profiad gwaith, gallai Hyfforddeiaeth fod yn gam cyntaf gwych.
Rhaglen datblygu sgiliau yw’r rhaglen hyfforddeiaeth, sydd hefyd yn cynnwys lleoliad gwaith. Mae’r rhaglen hyfforddeiaethau yn helpu pobl ifanc 16 i 24 oed – neu rhywun 25 oed sydd ag cynllun addysg, iechyd a gofal (EHC plan) – i baratoi ar gyfer prentisiaeth neu swydd os nad oes ganddynt y sgiliau neu’r profiad sydd eu hangen. Gall y rhaglen hyfforddeiaethau eich helpu i gael profiad gwaith go iawn, sgiliau swydd a gwella eich sgiliau Saesneg a Mathemateg, gan roi hwb mawr i’ch rhagolygon gyrfa.
Gall y rhaglen bara o 6 wythnos hyd at flwyddyn (er y bydd y rhan fwyaf yn para llai na 6 mis).
Dyma rai o’r manteision:
- Adeiladwch eich CV gyda phrofiad gwaith gwerthfawr. Byddwch yn dysgu am y busnes a’r diwydiant y mae’n gweithredu ynddo.
- Cael hyfforddiant paratoi gwaith a all helpu i’ch rhoi mewn gwell sefyllfa wrth wneud cais am brentisiaeth neu gyflogaeth arall.
- Rhoi hwb i’ch sgiliau ‘parod i weithio’!
- Gall hyfforddeiaethau helpu i roi’r hyder a’r sgiliau i chi gymryd eich cam cyntaf tuag at gael swydd.
- Cael cefnogaeth gyda sgiliau Mathemateg a Saesneg os oes angen
- Cael cyfweliad ar ddiwedd eich profiad naill ai ar gyfer rôl (os oes un ar gael) neu gyfweliad ymadael a fydd yn rhoi adborth i’ch helpu i sicrhau eich cyflogaeth nesaf.
Bydd angen i chi fod:
- Brwdfrydig i weithio
- Di-waith, neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos
- Rhwng 16 a 24 oed ac wedi cymhwyso islaw lefel 3
Efallai na fydd hyfforddeiaeth yn ffitio’n dda os ydych:
- Eisoes gyda’r sgiliau a’r profiad sydd ei hangen i ddod o hyd i gyfle
- Yn 25 oed neu’n hŷn
- Yn gyflogedig.