Prentisiaethau

Os ydych chi eisiau dechra eich gyrfa neu rhoi hwb i’ch gyrfa bresennol, mae Prentisiaeth yn lle gwych i ddechrau.

Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster lefel 2-5 a gydnabyddir yn genedlaethol, tra’n ennill cyflog – gan ei wneud yn ddewis gyrfa ardderchog.

Mae rhaglenni prentisiaeth yn dilyn Fframwaith Cenedlaethol cymeradwy i alluogi dysgwyr cyflogedig i gyflawni eu  Credydau Cymwysterau Fframwaith (QCF) ar lefelau 2, 3, 4 ac uwch gyda sgiliau hanfodol priodol yn ôl y lefel a nodwyd. Fel rhan o’r fframwaith bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau dau aseiniad perthnasol – Hawliau Cyflogaeth a Chyfrifoldebau ac Iechyd a Diogelwch.

Fel Prentis, rydych yn sicr:

  • I ennill cyflog
  • Cael gwyliau â thâl
  • Derbyn hyfforddiant
  • Cael cefnogaeth un-i-un gan ein aseswyr arbenigol
  • Ennill cymwysterau
  • Dysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd
  • Ennill sgiliau y mae cyflogwyr eu eisiau
  • Llwybrau dilyniant ardderchog

Mae tair lefel o brentisiaethau gan fod rhai swyddi yn gofyn am wahanol lefelau o gymwysterau, h.y. mae rhai yn uwch nag eraill. Bydd y lefel y gallwch wneud cais amdano yn dibynnu ar eich sgiliau a’ch cymwysterau cyfredol.

Mae prentisiaethau ar gael yn y tair lefel canlynol ar gyfer pobl 16 oed a throsodd;

  1. Prentisiaethau Sylfaen (sy’n cyfateb i bum gradd TGAU dda).
    Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu seiliedig ar waith fel NVQ Lefel 2 sy’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar brentisiaid ar gyfer eu gyrfa ddewisol ac yn caniatáu mynediad i Brentisiaeth.
  2. Prentisiaeth (sy’n cyfateb i ddau docyn Safon Uwch).
    Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu seiliedig ar waith fel NVQ Lefel 3. I ddechrau ar y lefel hon, yn ddelfrydol dylai prentisiaid gael pump TGAU (gradd C neu uwch) neu fod wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen.
  3. Prentisiaethau Uwch
    Mae Prentisiaethau Uwch yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu seiliedig ar waith fel NVQ Lefel 4 neu 5.

Mae gennym dîm profiadol o aseswyr sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a lefelau cymwysterau i ddiwallu eich anghenion.

Cysylltwch