Gwerth y Gymraeg a dysgu: Stori Dewi

Yn ddiweddar buom yn siarad â rheolwr cwricwlwm Itec, Dewi Richards-Darch am ei brofiadau wrth gwblhau prentisiaethau a’i daith o ailddarganfod y Gymraeg.

Pa gymwysterau ydych chi wedi’u cwblhau?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio tuag at fy ILM L4. Fel rhan o’r fframwaith, rwyf wedi cwblhau fy L2 llythrennedd digidol.

Sut oedd eich profiad yn cychwyn ar eich taith gyda phrentisiaethau?

Dechreuais yn y sector dysgu seiliedig ar waith fel tiwtor heb gymhwyso mewn hyfforddiant flynyddoedd lawer yn ôl. Trwy’r rôl hon y cefais y profiad o ddarganfod prentisiaethau a chefais fy ymrestru ar fy Nysgu a Datblygu L3. O gwblhau’r cymhwyster hwn a chael mewnwelediad a sgiliau pellach i’r sector, cefais gyfle i ganolbwyntio a datblygu fy ngyrfa mewn addysg. Nid yn unig y gwnaeth fy helpu i ganolbwyntio ond sefydlodd hefyd feddylfryd fy mod yn gallu dysgu a symud ymlaen mewn bywyd.

Trwy gwblhau prentisiaeth yn alwedigaethol, canfûm fy mod wedi gallu datblygu a oedd yn gweddu’n well i fy arddulliau dysgu trwy gyfuniad o theori a gweithgareddau ymarferol. Yn fwyaf diweddar dechreuais weithio tuag at fy ILM L4 a chaf fy asesu trwy ystod eang o ddulliau sy’n addas i’m hanghenion. Mae defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach nag arholiad wedi fy helpu i gwblhau cymwysterau. Fe helpodd fi i ddysgu amdanaf fy hun a sylweddolais nad oeddwn yn addas ar gyfer ffurfiau academaidd o astudio. Dim ond ar ôl darganfod dysgu galwedigaethol y dechreuais symud ymlaen yn fy ngyrfa.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw rwystrau, os felly, beth oedden nhw?

Y rhwystr mwyaf i gwblhau prentisiaeth yw amser. Mae’n wych eich bod chi’n gallu defnyddio tystiolaeth seiliedig ar waith i ffurfio’ch portffolio, ond yn aml gall ymrwymiadau gwaith olygu eich bod chi’n cael eich tracio i’r ochr gan arafu eich cyfradd cynnydd. Mae rhwystrau fel hyn yn gyffredin ac mae’r defnydd o ddulliau asesu fel trafodaethau wedi’u recordio a thystiolaeth fideo yn gymorth mawr i gadw ar y blaen ac ar ben pethau.

Sut effeithiodd y Gymraeg arnoch chi a’ch cymwysterau?

Fel person ifanc doeddwn i erioed wedi gwerthfawrogi gwerth y Gymraeg mewn gwirionedd. Mynychais ysgol gynradd a chyfun Gymraeg lle dysgwyd popeth yn Gymraeg. Roedd yn anodd dod heibio y tu allan i ble roedd Saesneg yn brif iaith a gweld bod yn rhaid i mi ddysgu cyfieithiadau o dermau allweddol a geirfa pynciau fel mathemateg i ddod heibio. Roedd hyn i mi yn her ac yn wreiddiol yn meddwl amdano fel rhwystr. Pan adewais yr ysgol, wnes i gadael y Gymraeg ar ôl heb sylweddoli ei phwysigrwydd tan yn ddiweddarach mewn bywyd.

Wrth edrych yn ôl, sylweddolaf nad rhwystr ydoedd a’i bod yn bwysig nad yw’r Gymraeg yn cael ei chadw’n unig a’i bod yn parhau i gael ei defnyddio mewn cymdeithas a lleoliadau addysg. Ers gweithio gydag Itec a thrwy fy mhrentisiaeth rwyf wedi ail-gysylltu â fy iaith ac yn ei defnyddio’n amlach yn y gweithle a thu allan yn fwy naturiol. Mae fy hyder wedi gwella er fy mod yn dal i godi fy hun yn ôl ac yn parhau i ddysgu wrth weithio.

Trwy fy nghymhwyster, rwyf wedi cwblhau cwrs Prentis Iaith ac wedi gwneud hynny ar lefel dealltwriaeth. Rhoddodd wybodaeth i mi am derminoleg dechnegol nad oeddwn yn gwbl ymwybodol ohoni o’r blaen ond fe helpodd hefyd fi i sylweddoli fy mod yn cofio mwy nag yr oeddwn yn ei feddwl yn flaenorol. Fe helpodd i roi hwb i fy hyder hyd yn oed yn fwy.

Sut mae eich hyder wedi newid gyda phrentisiaethau a’r Gymraeg?

Mae defnyddio’r Gymraeg i ddylunio adnoddau dysgu digidol wedi bod yn brofiad gwych wrth ddysgu sgiliau iaith sylfaenol i eraill. Mae’r adborth a gafwyd o’r adnoddau hyn wedi bod yn wych yn y rhan fwyaf o achosion, felly gwn eu bod yn cael effaith gyda dysgwyr ar draws ein contractau.

Mae fy hyder yn parhau i dyfu o ddydd i ddydd. Weithiau dwi dal angen cymryd amser i ddarllen dros y Gymraeg i fesur dealltwriaeth a defnyddio offer fel geriadur i ddysgu ystyr rhai geiriau ond dwi’n cyrraedd yn araf bach.

Pe baech yn gallu rhoi unrhyw gyngor am ddysgu Cymraeg i unrhyw un, beth fyddai hwnnw?

Siaradwyr Cymraeg sydd wedi colli cysylltiad – Yn syml, defnyddiwch hi a pheidiwch â’i cholli. Chwiliwch am ffyrdd waeth pa mor fach yw’r cyfle i ddefnyddio’ch iaith a meithrin eich hyder un cam ar y tro.
Ddim yn siarad Gymraeg – gosodwch her i chi’ch hun i ddysgu ychydig yn unig. Mae dysgu.cymru yn arf gwych i ddechrau ar eich taith. Chwiliwch ar-lein am grwpiau cymdeithasol y gallech eu mynychu i ddysgu ochr yn ochr ag eraill! Nid yw mor frawychus â hynny!