Rheoli Prosiect

Mae’r brentisiaeth hon wedi’i theilwra ar gyfer rheolwyr prosiect sy’n symud i rôl rheoli canol ac yn dal i fod yn gyfrifol am brosesau gweithredol.

Mae prentisiaid hefyd yn datblygu eu sgiliau rheoli ymarferol i wella perfformiad busnes ac i gefnogi eu dilyniant gyrfa.

Ar gyfer pwy mae e?

  • Rheolwyr prosiect
  • Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol

Lefelau

  • Mae’r brentisiaeth hon ar gael ar Lefel 4

Elfennau Rhaglen

  • Diploma Lefel 4 ILM mewn Rheolaeth
  • Sgiliau Hanfodol Cymru

Testunau dan sylw

  • Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol
  • Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth
  • Datblygu a gweithredu cynllun gweithredol
  • Datblygu perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid

Beth nesaf?

  • Gall ein Tîm Datblygu Busnes eich arwain drwy’r camau nesaf