Rheolaeth
Mae’r brentisiaeth mewn Rheolaeth yn gymhwyster uwch sydd ar gael ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
Mae’r rhaglen hon yn werthfawr i reolwyr newydd a sefydledig; maent yn ymdrin ag egwyddorion busnes, rheoli pobl a datblygiad proffesiynol.
Ar gyfer pwy?
- Rheolwyr neu unigolion sy’n rheoli tîm o bobl
- Mae prawf cymhwysedd yn berthnasol
Lefelau
- Mae’r brentisiaeth hon ar gael ar Lefel 3, Lefel 4 neu Lefel 5
Elfennau’r Rhaglen
- Diploma ILM Lefel 3 mewn Rheolaeth
- Diploma ILM Lefel 4 neu Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
- Diploma ILM Lefel 4 neu Lefel 5 mewn Egwyddorion Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
- Sgiliau Hanfodol Cymru
Pynciau a Drafodir
- Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol
- Egwyddorion busnes
- Rheoli perfformiad tîm
- Egwyddorion arwain a rheoli
- Egwyddorion rheoli pobl
Beth Nesaf?
- Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth, gallech symud ymlaen i brentisiaeth Rheoli Lefel 4 neu Lefel 5