Iechyd a Gofal Cymdeithasol
O helpu pobl ag angen penodol i ddarparu cymorth hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio mewn amrywiaeth o swyddi iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ofalu am eraill mewn ystod eang o swyddi iechyd neu ofal cymdeithasol.
Ar gyfer pwy?
- Mae Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hyblyg i weddu pawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Mae prawf cymhwysedd yn berthnasol
Lefelau
- Mae’r brentisiaeth hon ar gael yn Lefel 2, 3, 4, a 5
Elfennau’r Rhaglen
- Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion, Phlant a Phobl Ifanc)
- Diploma Lefel 4 mewn Gofal Oedolion
- Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch i Oedolion)
- Sgiliau Hanfodol Cymru
Pynciau a Drafodir
- Rôl gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd a diogelwch
- Gweinyddu meddyginiaeth
- Cefnogi pobl ag anableddau
- Gweithio gyda babanod a phlant ifanc
Beth Nesaf?
Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth, gallech symud ymlaen i lefel uwch o ddysgu, neu gymwysterau eraill sydd wedi’u cynllunio ar gyfer maes mwy arbenigol fel Diploma mewn Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu dystysgrif mewn Gweithio yn y Sector Iechyd.