Dilyn eich nodau gydag Itec: Stori Joseph James

Ar ôl sylweddoli nad oedd yn mwynhau ei gwrs peirianneg L1, roedd Joseph James yn teimlo’n isel hyder ac yn poeni am ei ddyfodol ar ôl gadael y coleg. Penderfynodd Joseph gofrestru efo Itec fel dysgwr maes dyrchafiad gyda’r nod o ennill gwybodaeth a phrofiad mewn ffabrigo a weldio. Mwynhaodd y pwnc hwn yn yr ysgol; fodd bynnag, roedd yn ansicr sut i fentro i’r diwydiant.

Mynegodd Joseph ddiddordeb mewn cyflogaeth yn ei Safle Dur TATA lleol gan fod cenedlaethau o’i deulu wedi gweithio yno, er ei fod yn teimlo’n ansicr fod ganddo’r cymwysterau.

Gyda chefnogaeth Arweinydd Tîm Swyddog Cyflogadwyedd Itec Ruth Sainsbury a Swyddog Cyflogadwyedd Gareth Williams, darganfuwyd lleoliad yn WELDLEC Ltd o fewn TATA Steel i Joseph. Roedd hwn yn gam enfawr yn nhaith Joseff, a theimlai wedi’i lethu ac yn nerfus yn mentro i lwybr cyflogaeth. O ganlyniad, paratôdd Ruth a Gareth Joseph ar gyfer ei gyfweliad gyda digonedd o dechnegau a chymhelliant. Ar ddiwrnod y cyfweliad, aeth Ruth gyda Joseph i gael taith o amgylch y safle a chafodd thrafodaethau ar hanes TATA Steel.

Bu cyfweliad Joseph yn llwyddiannus, ac roedd wrth ei fodd o fod yn y man lle bu ei dad-cu, ei dad a’i frawd yn gweithio. Roedd yn teimlo’n freintiedig ei fod yn aelod arall o’r teulu a oedd yn gallu gweithio yno, a theimlai ei fod wedi’i ysbrydoli i lwyddo.

Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau o’r leoliad, cyflwynwyd cynnig prentisiaeth i Joseph gan WELDLEC Ltd, gan ddod ag ef gam arall yn nes at gyflawni ei nod. Profodd Joseff ei fod yn fwy na galluog i fod yr hyn y mae am fod, a roedd ei dyfalbarhad yn werth bobeth.

‘Fyddwn i byth wedi gallu cael swydd yma a phrofi’r diwydiant hwn heb gymorth Gareth a Ruth’ – Joseph James

Trwy raglen Twf Swyddi Cymru+ mae Itec yn cefnogi pobl ifanc 16-19 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc fel Joseph archwilio gwahanol ddiwydiannau wrth ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth.