02/20/2023
Mae mwy nag 11,000 o bobl ifanc wedi cael help i gael swydd yn ystod blwyddyn gyntaf rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
- Gweinidog yr Economi’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Gwarant i Bobl Ifanc, y cynllun blaengar sy’n helpu pobl ifanc i gael gwaith ac sy’n lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc.
- Mae’r Gweinidog yn cadarnhau rhagor o help i’r bobl ifanc sydd ar raglenni Twf Swyddi Cymru+, ac sy’n ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw. Yn cynnwys costau teithio a phrydau am ddim.
Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc (YPG) yn cynnig help i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael swydd neu le mewn addysg neu hyfforddiant neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo £1.4 biliwn y flwyddyn o gymorth i bobl ifanc Cymru o dan raglenni amrywiol yr YPG.
I darllen y stori llawn, cliciwch yma.