12/22/2022

P’un a ydych chi’n dathlu’r Nadolig ai peidio, gallai’r tymor gwyliau effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall yr adeg hon o’r flwyddyn ddod â llawer o bwysau, boed hynny oherwydd eich bod yn teimlo’n unig, yn methu â fforddio anrhegion i’ch teulu, neu’n colli rhywun sydd wedi marw.

Mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun yn teimlo fel hyn a bod yna bethau a allai eich helpu i deimlo’n well.

Dyma saith ffordd y gallwch ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod tymor y Nadolig.

1. Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo

Gall fod yn anodd siarad â rhywun os nad ydych chi’n teimlo’ch gorau. Fodd bynnag, gall fod yn ddefnyddiol siarad am eich emosiynau gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo gan y gall wella eich hwyliau a’i gwneud yn haws ymdopi ag amseroedd anodd. Mae cymryd amser i gael y sgyrsiau hyn yn bwysig ac yn ffordd i chi fod yn gyfrifol am eich iechyd meddwl.

2. Cymerwch seibiant

Gall cymryd seibiant o’r gwaith neu ddysgu fod yn ffordd wych i chi ymlacio ac ailfywiogi. Gall newid cyflymder, p’un a ydych chi’n aros adref neu i ffwrdd am y gwyliau, fod yn ffordd wych i chi fyfyrio. Gall edrych yn ôl ar y flwyddyn a meddwl am unrhyw eiliadau neu gyflawniadau hapus wneud i chi deimlo’n ddiolchgar ac edrych ymlaen at y flwyddyn newydd sydd i ddod.

3.Cadwch drefn

Yn ystod gwyliau’r gaeaf gall fod yn hawdd mynd ar ei hôl hi yn eich trefn ddyddiol. Mae’n bwysig cymryd peth amser allan o’ch diwrnod i ddydd yn ystod yr egwyl ond gall cadw trefn ddyddiol eich helpu i strwythuro’ch diwrnod a chael rhywbeth i edrych ymlaen ato. Er enghraifft, gallech fynd am dro yn y prynhawn, cymryd peth amser i ddyddlyfru neu ysgrifennu, neu gael pum munud o ymwybyddiaeth ofalgar bob dydd.

4.Gwnewch bethau rydych chi’n eu mwynhau

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus? Gall gwneud pethau rydych chi’n eu mwynhau helpu i leddfu straen a rhoi cyfle i chi ar gyfer unrhyw emosiynau negyddol. Er y gall fod yn brysur o gwmpas y gwyliau, ceisiwch barhau i wneud y hobïau a’r gweithgareddau sy’n dod â llawenydd i chi trwy gydol y flwyddyn. Efallai eich bod chi’n mwynhau gwneud crefftau, pobi danteithion melys, neu ganu i’ch hoff gân – beth bynnag ydyw, bydd yn eich helpu i deimlo’n well os ydych chi’n isel.

5.Edrychwch ar ôl eich corff

Ar adeg sy’n ymwneud â rhoi i eraill, mae’n bwysig rhoi i chi’ch hun. Mae hynny’n golygu gwneud pethau sy’n dda i’ch corff fel cael digon o gwsg, bwyta’n dda, ac yfed digon o ddŵr. Mae ymarfer corff hefyd yn ffordd wych o ofalu amdanoch chi’ch hun oherwydd gall helpu eich hunanhyder, cadw ffocws i chi, a gwella’ch cwsg. Trwy ofalu am eich iechyd corfforol gall eich iechyd meddwl wella’n fawr.

6. Gofynnwch am help

Weithiau gall eich trafferthion iechyd meddwl fod yn fwy nag y gallwch chi ei oddef. Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gall gofyn am help fod y cam cyntaf i deimlo’n debycach i chi’ch hun. Gall fod yn anodd gofyn am help, efallai y byddwch hyd yn oed yn teimlo embaras neu ofn ond nid yw cael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl yn ddim byd i fod â chywilydd ohono. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i weld pa gamau y gallwch chi eu cymryd i gael yr help rydych chi ei angen ac yn ei haeddu.

7. Rhoddwch yn ol

Gall gwirfoddoli eich helpu i deimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Mae’n debygol y bydd cyfleoedd gwirfoddoli yn eich cymuned leol a all eich helpu i fagu hyder, cwrdd â phobl newydd, a gweithio tuag at achos da. Gall gweithredoedd caredig, waeth pa mor fach, wneud y byd yn lle gwell ac mae bod yn rhan o hynny yn debygol o ddod â llawenydd i chi.