11/09/2022

Mae Itec yn buddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl pwrpasol i ddysgwyr yng Nghymru

Mae darparwr hyfforddiant arbenigol ledled Cymru Itec wedi buddsoddi yn lles ac iechyd meddwl ei ddysgwyr drwy weithio mewn partneriaeth â’r llwyfan iechyd a lles blaenllaw, Red Dot 365, ar ôl i ddata diweddar ddatgelu nad yw 49% o bobl ifanc 16–24 oed yn teimlo yn barod i wneud y cwrs neu gael y swydd y mae ei heisiau’.

Itec yw’r darparwr hyfforddiant a sgiliau seiliedig ar waith cyntaf yng Nghymru i fuddsoddi yn y feddalwedd, sy’n darparu datrysiadau iechyd a lles wedi’u teilwra, wedi’u llywio gan dystiolaeth ar gyfer ei ddefnyddwyr.

Mae’r buddsoddiad gan Itec yn galluogi ei ganolfannau rhanbarthol i fonitro pa faterion sy’n cael yr effaith fwyaf ar eu dysgwyr. Yn eu tro, mae’r tîm yn deall pa feysydd cymorth i ganolbwyntio arnynt, gan greu hinsawdd emosiynol gadarnhaol i’r dysgwyr lwyddo.

Darllenwch yr erthygl llawn yma