Bydd miloedd o bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig yn cael cynnig cymorth ychwanegol i gael gwaith yr haf hwn.

Ar ôl llywio bywyd trwy bandemig, mae profiad ysgol a choleg i bobl ifanc yn eu harddegau ledled Cymru wedi bod ymhell o fod yn normal ac maent yn debygol o fod yn teimlo’n nerfus am y dyfodol.

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i blentyn yn ei arddegau sydd ddim yn siŵr beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl ysgol, efallai mai rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+ yw’r ateb. Mae’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc 16-18 oed sy’n byw yng Nghymru i roi hwb i’w gyrfa, gyda chymorth i ddechrau dysgu ar lefel uwch, boed hynny drwy brentisiaeth neu gyflogaeth.

Hefyd, mae cymorth ar gael hefyd trwy leoliadau gwaith, treialon gwaith, prosiectau cymunedol, gwaith gwirfoddol a chyfleoedd i gwblhau cymwysterau sy’n amrywio o Lefel Mynediad i Lefel 1 – yn dibynnu ar anghenion unigol unigolyn.

Darllenwch yr erthygl llawn gyda Wales Online yma