09/22/2022

Rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo i gadw’r achrediad Arian Safon Iechyd Corfforaethol. Y Safon Iechyd Gorfforaethol yw’r nod ansawdd ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle yng Nghymru, i gael gwybod mwy ewch i wefan Cymru Iach ar Waith.

Nododd ein haseswr allanol yn yr adroddiad:

“Roedd yn bleser ac yn ysbrydoliaeth cynnal yr asesiad hwn gydag ITEC ac mae’n bleser gennyf gadarnhau eich llwyddiant yn y Gwiriad Statws Uwch lefel arian hwn – mae’n gwbl haeddiannol, a dymunais bob llwyddiant parhaus i chi ar gyfer y dyfodol.”

Hoffem ddiolch i’r holl weithwyr a gyfrannodd at yr asesiad.