05/14/2021

Tiwtor Ieuenctid ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Tiwtor y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

“Mae bod yn addysgwr yn fy ngalluogi i barhau i ddysgu ond, yn bwysicaf oll, gallaf annog pob dysgwr i feddwl y tu hwnt i’w parthau cysurus a’u herio i gyrraedd eu llawn botensial,” – Hannah Kane-Roberts, Tiwtor Ieuenctid yn Itec

Un o fanteision mwyaf swydd Hannah Kane-Roberts yw cefnogi dysgwyr ar hyd eu taith a’u gwylio’n ffynnu ac yn llwyddo.

Mae Hannah, 27, o Sblot, Caerdydd, yn diwtor ieuenctid yng Nghanolfan Caerdydd darparwr dysgu seiliedig ar waith Itec lle mae’n gweithio gyda dysgwyr sy’n cael trafferth ymgysylltu ag addysg ac sydd â rhwystrau lluosog i gyflogaeth a dysgu.

Mae 80%  o’i dysgwyr yn cyflawni dilyniant cadarnhaol i gyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach ac mae Hannah wedi cyflawni cyfradd llwyddiant gweithgaredd 100% yn y cymhwyster cyflogadwyedd y mae’n ei gyflwyno i’w dysgwyr.

Mae rhaglen dysgu a datblygu pob unigolyn wedi’i theilwra’n bersonol diolch i’r cyfraniad cadarnhaol y mae Hannah wedi’i wneud i adolygu ac ailgynllunio cwricwlwm Hyfforddeiaethau Itec mewn partneriaeth â dysgwyr, yn 2019.

I gydnabod ei gwaith, mae Hannah ar restr fer gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 o gystadleuwyr y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar Ebrill 29fed.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd o brentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dechreuodd Hannah ei gyrfa gydag Itec yn 2016 fel gwirfoddolwr cyn symud ymlaen i fod yn weithiwr cymorth dysgu ychwanegol, cynorthwyydd dosbarth, hyfforddwr dysgu a’i rôl bresennol.

Yn angerddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP), mae hi wedi cyflawni cymhwyster Hyfforddwr Dysgwr Lefel 4, gradd BSc (Anrh) mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a Thystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg.

Mae Hannah yn cefnogi cydweithwyr gyda’u DPP ac yn rhagori ar ymgysylltu â sefydliadau allanol i ddod yn bartneriaid cyflwyno i helpu dysgwyr i fynd i’r afael â rhwystrau i waith.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwnaeth y defnydd mwyaf posibl o lwyfannau digidol i sicrhau bod ei dysgwyr yn parhau i symud ymlaen a chynhyrchodd ‘Canllawiau Sut i’ ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr gan ddefnyddio llwyfannau digidol.

“Mae bod yn addysgwr yn fy ngalluogi i ddal ati i ddysgu ond, yn bwysicaf oll, gallaf annog pob dysgwr i feddwl y tu hwnt i’w parthau cysurus a’u herio i gyrraedd eu llawn botensial,” meddai Hannah. “Rwy’n credu’n gryf bod pob dysgwr yn haeddu cyfle, waeth beth fo’u sefyllfa bresennol neu rwystrau i ddysgu.”

Dywedodd Esther Barnes, cyfarwyddwr adnoddau dynol Itec: “Mae Hannah yn uchel ei pharch ymhlith ei dysgwyr a’i chydweithwyr ac mae’n derbyn lefelau uchel o adborth cadarnhaol gan ddysgwyr yn gyson. Mae ei hagwedd bersonol yn golygu bod pob dysgwr yn cael ei drin fel unigolyn heb fod dwy daith dysgwr yr un peth.”