Mae Itec yn cyflawni Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn ymdrechu i fod yn lle amrywiol a chynhwysol i weithio ynddo. Ein huchelgais yw gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo amgylchedd cynhwysol, sy’n denu pob ymgeisydd ac yn arwydd o’n hymrwymiad i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth. Rydym wedi cynnal hunanasesiad yn erbyn y safon a gafodd ei adolygu wedyn gan aseswr allanol. Dilysodd hyn ein hunanasesiad fel adlewyrchiad cywir o sut rydym yn cyrraedd y safon a chawsom ein cadarnhau fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ym mis Medi 2021.

Yn dilyn y broses gadarn hon, gallwn nawr gefnogi cyflogwyr eraill i gofrestru i’r safon ar bob un o’r 3 lefel. Rydym yn annog cyflogwyr a sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i gofrestru ar gyfer y cynllun. I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Hyderus o ran Anabledd, ewch i https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign.

Yma gallwch ddarganfod mwy am y 3 lefel: Ymrwymedig, Cyflogwr ac Arweinydd.

Os hoffai unrhyw sefydliad gael cefnogaeth gan Itec i gyrraedd y safon, byddem yn hapus i drafod eich gofynion. Anfonwch e-bost at enquiries@itecskills.co.uk am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol.