10/06/2021

Mae Itec yn arwyddo Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith i wella a chefnogi iechyd meddwl eu gweithwyr.

Llofnododd Itec yr Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith heddiw, gan ddangos eu huchelgais i ddatblygu amgylchedd a diwylliant gweithle lle gall pob gweithiwr ffynnu. Drwy lofnodi’r Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith, ymrwymodd Itechas i gyflawni canlyniadau iechyd meddwl gwell ac effaith gadarnhaol wirioneddol hirdymor ar les staff, gan ymuno â mudiad cynyddol o dros 1000 o sefydliadau.

Wedi’i ddatblygu gyda gwybodaeth ac arbenigedd elusennau iechyd meddwl, cyflogwyr blaenllaw a sefydliadau masnach, mae’r Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith yn darparu fframwaith syml i gyflogwyr sy’n cydnabod pwysigrwydd hybu lles staff. Mae’r fframwaith hwn yn nodi chwe safon glir yn seiliedig ar yr hyn y mae arfer gorau wedi dangos sydd ei angen i wneud gwahaniaeth a pharatoi cyflogwyr yn well i greu amgylchedd lle gall gweithwyr ffynnu.

Gallwch chi ymweld ar gwefannau ar www.mentalhealthatwork.org.uk