10/18/2021

Itec wedi’i hailachredu ar gyfer Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd

Rydym yn falch o fod wedi bod yn llwyddiannus yn ein hailachrediad diweddar ar gyfer y Ddraig Werdd. Diolch i’n holl staff am gefnogi’r busnes i gyflawni a chyfrannu at ein hymrwymiad i gyflawni’r effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar les economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Dyfernir Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd i sefydliadau sy’n gallu dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol. Mae’r Ddraig Werdd yn safon amgylcheddol a ddyfernir i sefydliadau sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd.