05/15/2021

Dysgwr hyfforddeiaeth ar restr fer gwobr dysgwr y flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

“Mae Jamie yn ddysgwr rhagorol; mae’n garedig iawn, yn gymwynasgar ac mae bob amser yno i gefnogi ac ysbrydoli ei gyfoedion. Er iddo adael yr ysgol yn gynnar, nid yw erioed wedi rhoi’r gorau iddi, mae wedi codi ei ben yn uchel, mae ganddo agwedd gadarnhaol, ‘gallu gwneud’ ac mae bellach yn ddyn ifanc gweithgar, hyderus ac ymroddedig gyda dyfodol disglair.” – John, Tiwtor Adeiladu

Cafodd Jamie Hopkins ei fwlio’n ddifrifol yn yr ysgol ac o ganlyniad gadawodd heb unrhyw gymwysterau. Nid tan bedair blynedd yn ddiweddarach y darganfuodd ei gariad at ddysgu diolch i’r gefnogaeth a gafodd trwy hyfforddeiaeth gydag Itec.

Mae Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, yn gwneud eitemau crefft mewn gweithdy gartref fel hobi gyda’r sgiliau y mae wedi’u datblygu ac mae’n canolbwyntio ar yrfa mewn gwaith saer cain.

Mae’n canmol ei lwyddiant i’r gefnogaeth a newidiodd ei fywyd a ddarparwyd gan Ganolfan Casnewydd Itec lle enillodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.

Bellach mae Jamie ar restr fer gwobr Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 o gystadleuwyr y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar Ebrill 29fed.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd o brentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Doedd gan Jamie ddim syniad pa lwybr gyrfa i’w ddilyn pan ymrestrodd i ddechrau gydag Itec ond dangosodd ddawn naturiol at waith coed.

Oherwydd ei brofiad ysgol, cafodd sesiynau grŵp yn anodd, felly dechreuodd y goruchwyliwr gweithdy adeiladu John Smith diwtora un-i-un i feithrin ei sgiliau a’i hunanhyder, sydd wedi talu ar ei ganfed.

Er gwaethaf heriau Covid-19, llwyddodd Jamie i sefydlu gweithdy garej gartref a, gyda chymorth ac arweiniad pellach gan John, dechreuodd wneud eitemau anrhegion pwrpasol a werthodd mewn siop leol.

Chwaraeodd Jamie ran flaenllaw hefyd ym mhrosiect ‘Anrheg Nadolig’ Itec, gan godi arian i blant agored i niwed a basgedi bwyd i’r teuluoedd hynny mewn angen.

Gan obeithio dod o hyd i brentisiaeth gyda busnes lleol, mae Jamie bellach yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Saer yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.

Gan ganmol y gefnogaeth a ddarparwyd gan y tiwtor John, meddai. “Dechreuodd Itec fi gyda gwaith coed ac roedd John yn gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud. Mae mor dda gyda phobl ac yn berson neis iawn. Rydw i nawr eisiau dysgu cymaint â phosib.”

Dywedodd John: “Mae Jamie yn ddysgwr rhagorol; mae’n garedig iawn, yn gymwynasgar ac mae bob amser yno i gefnogi ac ysbrydoli ei gyfoedion. Er iddo adael yr ysgol yn gynnar, nid yw erioed wedi rhoi’r gorau iddi, mae wedi codi ei ben yn uchel, mae ganddo agwedd gadarnhaol, ‘gallu gwneud’ ac mae bellach yn ddyn ifanc gweithgar, hyderus ac ymroddedig gyda dyfodol disglair.”