Arwain Tîm

Mae ein prentisiaeth Arwain Tîm yn becyn cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i rymuso eich staff gyda sgiliau arwain hanfodol.

Am y Cwrs

Trosolwg

Mae ein prentisiaeth Arwain Tîm yn becyn cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i rymuso eich staff gyda sgiliau arwain hanfodol. O adeiladu tîm a datrys problemau i gyllidebu a chyllid, mae pob modiwl wedi’i deilwra i gwrdd â heriau’r byd go iawn.

Iaith

Saesneg

Ar gyfer pwy?

Mae cyfrifoldebau rôl eich swydd yn debygol o gynnwys rhai o’r canlynol:

  • Rheoli prosiectau a chyllidebau
  • Trefnu cyhoeddusrwydd a thasgau codi arian
  • Darparu cynlluniau gweithredol
  • Datrys problemau gyda staff a rhanddeiliaid
  • Meithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol
  • Cynllunio a monitro llwythi gwaith ac adnoddau

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol:

  • Rhaid i ddysgwyr fod mewn rôl lle maen nhw’n cael cymhwyso’r sgiliau Treulio 50% o oriau gwaith yn Lloegr
  • Bod yn gyflogedig (ddim yn hunangyflogedig nac yn llawrydd)
  • Ni ddylai fod â’r un cymhwyster neu gymhwyster lefel uwch yn yr un maes

Elfennau’r Rhaglen

Lefel 3 Arwain Tîm

  • Rhaglen gyflawni 13 mis
  • Bydd dysgwyr yn mynychu dau weithdy hanner diwrnod ar-lein ac yn cael sesiwn un-i-un gyda’u Mentor Rheoli bob mis i fonitro’r broses.
  • Ar ôl pob sesiwn bydd angen i ddysgwyr gwblhau adroddiad myfyriol gan edrych ar yr hyn y maent wedi’i gymryd o’r gweithdy, a sut mae’r wybodaeth newydd hon wedi neu y gellid ei defnyddio yn eu rôl swydd.
  • Bydd defnyddio enghreifftiau seiliedig ar waith a thystiolaeth ategol o gynnyrch, yn helpu i adeiladu eu portffolio a dangos dealltwriaeth o’r meini prawf a drafodwyd yn y gweithdy.
  • Cynnal EPA (Asesiad diweddbwynt).

Pynciau a Drafodir

Rydym yn falch o allu cwmpasu:

  • Rheoli Amser
  • Rheoli hunan
  • Rheoli Prosiect
  • Meithrin a Datblygu Tîm
  • Adeiladu Tîm Perfformio Uchel
  • Llywodraethu Sefydliadol – AD
  • Llywodraethu Sefydliadol – Cyllid
  • Cyfathrebu
  • Diwylliant a Strategaeth Sefydliadol
  • Datrys Problemau
  • Dadansoddi Data

Beth sydd nesaf?

​Ar ôl cwblhau, gall dysgwyr ddewis cofrestru fel aelodau Cyswllt gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a/neu’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, i gefnogi eu datblygiad gyrfa proffesiynol a’u dilyniant.

Cyllid ar gael:

Cost rhaglen Lefel 3 Arwain Tîm fesul cynrychiolydd: £4,500.

Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr bach’: £225 + TAW (5% o’r gost, grant y Llywodraeth yn cwmpasu 95%).

Cost cynrychiolydd os ydych yn gweithio i ‘gyflogwr mawr’: Ariennir yn llawn drwy’r Ardoll Prentisiaethau. (Unwaith y bydd yr ardoll wedi’i gwario, dim ond 5% o unrhyw gostau rhaglen ychwanegol y byddwch yn ei dalu).

*I fod yn gymwys ar gyfer y grant fel cyflogwr bach, rhaid i’ch cost cyflogres fod yn llai na £3 miliwn. Os yw eich cyflogres yn uwch na hyn, yna byddwch yn gyflogwr a ariennir gan ardoll.*

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Cleilentiaid Prentisiaethau