ITEC SKILLS AND EMPLOYMENT

Ein Ymrwymiad Cymraeg

Yn Itec credwn fod y Gymraeg yn sgil gwerthfawr yn y gweithle, nawr ac i’r dyfodol.

Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant, gan gefnogi’n rhagweithiol uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym yn gweithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu gallu yn y Gymraeg. Nod y Coleg Cymraeg yw creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg

Rydym yn cefnogi’r amcan hwn drwy ein hymrwymiad i:

Hyrwyddo manteision y Gymraeg a diwylliant Cymru i’n holl ddysgwyr, cyflogwyr a gweithwyr ar draws ein rhaglenni yng Nghymru.

Annog ein gweithwyr a’n dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Rhoi cyfle i ddysgwyr gwblhau eu cymhwyster yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Darparu lleoliadau gwaith Cymraeg.

Hyrwyddo diwylliant Cymru drwy ein cwricwlwm a diwrnodau ymwybyddiaeth.

Cyfleoedd Prentisiaeth ar gael yn y Gymraeg

Prentisiaeth Darpariaeth Ddwyieithog Gymraeg Ar Gael
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol- Lefel 2 a 3

Darperir gan ein partneriaid

Pengwin

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdaeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)

Lleoliadau danfoniad: De Cymru

URDD

  • Lefel 2 Arweinyddiaeth Gweithgareddau (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
  • Lefel 3 Datblygiad Chwaraeon (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
  • Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
  • Lefel 3 Cefnogi Dysgu yn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (Cymraeg)
  • Lefel 3 Rhaglenni Awyr Agored (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
  • Lefel 2 a Lefel 3 Gwaith Ieuenctid (Cymraeg/Yn ddwyieithog)

 Lleoliadau danfoniad: Dros Cymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gymwysterau nad ydynt wedi’u rhestru uchod, anfonwch e-bost at enquiries@itecskills.co.uk

Llysgenhadon Prentisiaeth

Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ein Llysgenhadon Prentisiaeth yn hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gweithleoedd.

Dewi Richards-Darch
Dewi Richards-Darch

Llysgenhad Prentisiaethau
Level 4 Rheolaeth

Ieuan Morgans
Ieuan Morgans

Llysgenhad Prentisiaethau
Level 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Angharad Roberts
Angharad Roberts

Cynorthwyydd Marchnata a Swydog Iaith Gymraeg
angharad.roberts@itecskills.co.uk

Cyrsiau am Ddim

Dysgwch sut i ddechrau sgyrsiau ffurfiol ac anffurfiol.

Dolenni Defnyddiol

Deunyddiau dysgu rhyngweithiol ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau iaith.

Apiau a Meddalwedd

Casgliad o eiriaduron defnyddiol ar gyfer eich cyfrifiadur ac yn rhan o becyn Cysgliad.

Adnoddau i'w Lawrlwytho

Mae Shwmae yn cynnig amrywiaeth o bosteri i’w lawrlwytho am ddim y gallwch eu harddangos yn eich gweithle ac o’i gwmpas.

Ein Achrediadau