Morgan Ridgway
O Ddechreuadau Swil i Dyfodol Disglair: Taith Morgan gydag Itec
Yn Itec, eich llwyddiant yw ein llwyddiant. Mae pob aelod o Itec 100% wedi ymrwymo i brofiad dysgwyr a chreu canlyniadau ystyrlon, effeithiol a chynaliadwy i bawb. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut y gall ein tîm gefnogi dysgwyr a chyflogwyr ar eu ffordd i ddyfodol disglair:
Ymunodd Morgan Ridgway â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Itec heb unrhyw gymwysterau, dim CV a dim syniad i ble bydd ei ddyfodol yn mynd. Roedd amgylchedd yr ystafell ddosbarth gyda grwpiau mawr yn llethol iddo, ac roedd yn agored i unrhyw ddiwydiant â swyddi yn ei ardal leol i dderbyn dechreuad gyrfa wrth ennill sgiliau ymarferol.
Roedd Swyddog Cyflogadwyedd Itec, Gareth Williams, yn awyddus i helpu Morgan ar ei daith gyflogaeth ac felly fe’i cyflwynodd i Celvac, arbenigwr symud gofod cyfyngedig yn y diwydiant dŵr yn y DU. Fel unigolyn swil, roedd Morgan yn teimlo’n bryderus yn gweithio i gyflogwr mawr am y tro cyntaf, fodd bynnag, wrth iddo ddechrau ar ei leoliad, cafodd Morgan hyfforddiant llawn a chafodd lawer o gefnogaeth gan aelodau eraill o staff. Addaswyd tasgau i weddu i anghenion Morgan a buan iawn daeth yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Yna dechreuodd Morgan gwblhau tasgau dyddiol fel cynnal a chadw cyffredinol, gwaith mecanyddol a glanhau diwydiannol, ochr yn ochr ag adeiladu ei hyder ac ehangu ei wybodaeth.
O ganlyniad, mae Celvac yn cyflogi Morgan gan ddefnyddio Cynllun Cymhorthdal Cyflog JGW+ ar unwaith. Meddai Gareth, “Rwy’n falch iawn o Morgan, mae wedi dod yn bell ers i ni gyfarfod gyntaf, mae wedi profi ei hun yma.”
Mae Itec yn estyn ein diolch i Celvac am ddarparu lleoliad ardderchog i Morgan ac am adeiladu llwybr gyrfa lewyrchus iddo. Nod rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Itec yw cysylltu dysgwyr â chyflogwyr lleol, gan eu grymuso i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a rhagori yn y gweithle. Mae Michelle Davies, goruchwyliwr Morgan yn Celvac, yn cefnogi’r rhaglen yn llwyr ac meddai, “Mae’n hyfryd cefnogi oedolion ifanc yn y gymuned a’u gweld yn datblygu.”
Barod i gweithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.