Kirstie Rowe a Lauren Prescott

Adeiladu dyfodol tra’n goresgyn heriau Covid-19

“Mae wir wedi bod yn gwrs gwych, ac mae’r aseswyr yn ddeallus, yn gefnogol ac yn glod gwirioneddol i’r cwmni!” – Kirstie

Ers iddynt fod yn eu harddegau, breuddwydiodd Kirstie a Lauren am ddilyn gyrfa mewn lletygarwch. Nawr, ar ôl gweithio yn y diwydiant am nifer o flynyddoedd, fe benderfynon nhw fynd â’u gyrfa i’r cam nesaf, trwy gymorth prentisiaeth.

Mae Kirstie a Lauren yn gweithio fel blaen tŷ i Glwb Golff arobryn, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl.

Ar ôl cwblhau eu NVQ Lefel 3 mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth, mae Kirstie a Lauren bellach yn barod i gymryd eu camau cyntaf i reoli, gyda chymorth y cwrs Rheoli Lletygarwch Lefel 4.

Drwy gydol eu hamser ar y rhaglen, mae Kirstie a Lauren wedi gorfod brwydro yn erbyn nifer o rhwystrau a’u goresgyn. Y brif her yr oedd yn rhaid i’r ddau ei hwynebu, oedd y pandemig Cofid-19. Fel y gwyddoch mae’n siŵr, mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol ar y diwydiant lletygarwch, gyda’r mwyafrif o fusnesau’n profi prinder staff a cholli refeniw. Nid yn unig oedd hwn yn gyfnod anodd i weithio drwyddo, a rheoli eraill, ond roedd gan Kirstie a Lauren eu gwaith cwrs i’w gwblhau hefyd. Hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf, dangosodd y ddwy fenyw ymroddiad aruthrol i gwblhau eu holl waith cwrs ar amser, ac i safon uchel.

Mae Lauren hefyd wedi wynebu rhwystrau personol i ddelio â nhw, ar ôl cael diagnosis o MS (sglerosis ymledol) yn ddiweddar, sef clefyd sy’n effeithio ar eich system nerfol ganolog, a gall ddarparu symptomau fel colli golwg, fertigo, blinder a sbastigedd cyhyr. Sy’n golygu, yn ystod y cyfnod anodd hwn, nid yn unig y bu’n rhaid i Lauren jyglo ei llwyth gwaith, ei dyletswyddau rheolaethol, ac effeithiau emosiynol y pandemig, ond ei bod hefyd wedi gorfod brwydro yn erbyn ei phroblemau iechyd, trwy orfod mynychu apwyntiadau lluosog a delio â’r achosion estynedig o poeni am fregusrwydd ei hiechyd yn ystod pandemig byd-eang. Er mor anodd ag y bu’r cyfnod hwn i Lauren, mae hi wedi dangos lefel wych o benderfyniad a dewrder, drwy gydbwyso’r holl heriau a grybwyllwyd uchod, ac yn dal i lwyddo i gwblhau ei phrentisiaeth.

Yn ôl y merched, un o’r elfennau allweddol a’i gwnaeth yn bosibl goresgyn y rhwystrau hyn oedd eu haseswr, Nick Snell.

“O fewn y math hwn o amgylchedd, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth o gael perthynas agos â’ch aseswr, mae’n gwneud y broses gymaint yn fwy pleserus a hylaw. Mae cael perthynas onest a thryloyw gyda Nick wedi fy helpu i gyflawni fy nodau” – Lauren

Mae’r ddwy ferch yn canmol Itec a’r rhaglen brentisiaeth am eu datblygiad, trwy roi gwell dealltwriaeth i’r merched o’u cyfrifoldebau craidd, strategaethau amrywiol ar sut i reoli eraill, yn ogystal â thactegau ac arferion i gynyddu boddhad cwsmeriaid.

“Roedd cael y cyfle i fireinio fy sgiliau presennol tra’n datblygu set newydd sbon o fudd mawr i mi” – Kirstie

Mae profiad Kirstie trwy gydol y rhaglen brentisiaeth wedi ei hysbrydoli i redeg ei thîm ei hun a rhoi ei sgiliau arwain newydd ar waith.

Gan ddefnyddio ei hyder Newydd o’i phrentisiaeth, gwnaeth Kirstie gais am rôl uwch ‘Goruchwyliwr Bwyd a Diod’, lle bu’n llwyddiannus. Tra bod Lauren eisoes â’i bryd ar brentisiaeth arall, ac mae’n bwriadu parhau â’i thaith ddysgu i ddatblygu ei sgiliau rheoli a lletygarwch ymhellach.

“Rwyf eisoes wedi meddwl am lefel nesaf y brentisiaeth ac wedi edrych arni, er nad wyf wedi gorffen yr un hon eto” – Lauren

Wrth gael eu holi, dywedodd Kirstie a Lauren mai mantais bwysicaf y brentisiaeth oedd faint o gefnogaeth a gawsant gan eu haseswr, Nick.

“Mae Nick wedi bod yn gymaint o help, dwi wir ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu gwneud y brentisiaeth hon hebddo” – Lauren

Mae’r ddau yn nodi y byddent yn argymell prentisiaeth gydag Itec i eraill, ac yn dymuno atgoffa eraill, hyd yn oed pan fyddwch chi’n meddwl eich bod ar eich pen eich hun, bod yna bob amser rywun sy’n barod i’ch helpu chi drwy’r cyfnod anodd.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau