Kayleigh Davies
Budd Magu Hyder: Sut y cyflawnodd Kayleigh Davies ei gyrfa ddelfrydol gydag Itec
Cyn darganfod y Cynllun Ailddechrau, roedd Kayleigh Davies yn fam llawn amser a chyn hynny bu’n gweithio fel glanhawraig yn Ysgol Gyfun Trefynwy. Ei huchelgais oedd bod yn gynorthwyydd addysgu addysg arbennig ond roedd yn poeni y byddai ei diffyg cymwysterau yn ei rhwystro rhag cyrraedd ei nod; ar ôl gadael yr ysgol gyda TGAU a Lefel A mewn Seicoleg. Serch hynny, roedd ganddi’r cymhelliad i gychwyn ar ei thaith gan fod hon yn yrfa sy’n agos at ei chalon, oherwydd bod ganddi berthynas agos sy’n cael diagnosis awtistiaeth posibl ar hyn o bryd. Roedd Kayleigh eisiau ennill sgiliau newydd, dyfnhau ei dealltwriaeth o’r pwnc, a chynnig cefnogaeth.
Oherwydd anawsterau yn ei bywyd personol, roedd Kayleigh yn ei chael hi’n anodd i ddechrau cael cyflogaeth addas. Cafodd brofiad o broblemau iechyd meddwl hefyd. Fodd bynnag, cafodd Kayleigh drawsnewid efo’i hyder gyda chymorth adborth CV a gwella sgiliau cyflogadwyedd diolch i’r rhaglen Ailddechrau a Courtney, ei chynghorydd cyflogadwyedd. Cwblhaodd Kayleigh hefyd gwrs ar-lein ar anghenion addysgol arbennig, gan ehangu ei gwybodaeth a rhoi hwb pellach i’w hyder.
Cynigiwyd swydd cynorthwyydd addysgu i Kayleigh yn ddiweddar, yn gweithio gyda phlant rhwng 7 a 19 oed ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Ar ôl tair blynedd o ddiweithdra, mae Kayleigh yn teimlo’n llawer mwy annibynnol a diogel fel unigolyn ac mae’n awyddus i gamu yn ôl i fyd gwaith.
Cyngor Kayleigh i’w hunan iau neu eraill mewn sefyllfa debyg fyddai:
“Ewch amdani. Credwch yn eich hun ychydig mwy.’’
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.