Jamie Hopkins

Byddwch yn Ddigynnwrf a Daliwch ati i Greu: Dysgwr Hyfforddeiaeth yn Creu Gyrfa mewn Gwaith Saer Yn ystod y Cloi i Lawr.

 

Mae Jamie yn ddysgwr rhagorol; mae’n garedig iawn, yn gymwynasgar ac mae bob amser yno i gefnogi ac ysbrydoli ei gyfoedion. Er iddo adael yr ysgol yn gynnar, nid yw erioed wedi rhoi’r gorau iddi, roedd wedi dal ei ben yn uchel, roedd ganddo agwedd gadarnhaol ‘gallu gwneud’ ac nid yw’n ddyn ifanc diwyd, hyderus ac ymroddedig sydd â dyfodol disglair – John, tiwtor Jamie

Cafodd Jamie Hopkins ei fwlio’n ddifrifol yn yr ysgol ac o ganlyniad gadawodd heb unrhyw gymwysterau. Nid tan bedair blynedd yn ddiweddarach y darganfuodd ei gariad at ddysgu diolch i’r gefnogaeth a gafodd trwy hyfforddeiaeth gydag Itec.

Mae Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, yn gwneud eitemau crefft mewn gweithdy gartref fel hobi gyda’r sgiliau y mae wedi’u datblygu ac mae’n canolbwyntio ar yrfa mewn gwaith saernïaeth cain.

Mae’n canmol ei lwyddiant i’r gefnogaeth a newidiodd ei fywyd a ddarparwyd gan Ganolfan Casnewydd Itec lle enillodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.

Bellach mae Jamie ar restr fer gwobr Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar Ebrill 29fed.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd o brentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Doedd gan Jamie ddim syniad pa lwybr gyrfa i’w ddilyn pan ymrestrodd i ddechrau gydag Itec ond dangosodd ddawn naturiol at waith pren.

Oherwydd ei brofiadau yn yr ysgol, cafodd sesiynau grŵp yn anodd, felly dechreuodd y goruchwyliwr gweithdy adeiladu John Smith diwtora un-i-un i feithrin ei sgiliau a’i hunanhyder, sydd wedi talu ar ei ganfed.

Er gwaethaf heriau Covid-19, llwyddodd Jamie i sefydlu gweithdy garej gartref a, gyda chymorth ac arweiniad pellach gan John, dechreuodd wneud eitemau anrhegion pwrpasol a werthodd mewn siop leol.

Chwaraeodd Jamie ran flaenllaw hefyd ym mhrosiect ‘Anrheg Nadolig’ Itec, gan godi arian i blant agored i niwed a basgedi bwyd i’r teuluoedd hynny mewn angen.

Gan obeithio dod o hyd i brentisiaeth gyda busnes lleol, mae Jamie bellach yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Saer yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.

Gan ganmol y gefnogaeth a ddarparwyd gan y tiwtor John, meddai. “Dechreuodd Itec fi gyda gwaith coed ac roedd John yn gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud. Mae mor dda gyda phobl ac yn berson neis iawn. Rydw i nawr eisiau dysgu cymaint â phosib.”

This is an image of a leaner (Jamie Hopkins)

Barod i gweithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau