Brandon Johnson
Lle gall Prentisiaethau cymryd chi?
Lai na 6 mis yn ôl, roedd Brandon Johnson newydd orffen coleg ac roedd yn gweithio swydd ran-amser ond roedd yn ansicr ynghylch y camau nesaf yn ei yrfa. Roedd yn gwybod yr oedd eisiau gael gwaith llawn amser ond nid oedd yn gwybod ble na sut. Felly, dechreuodd edrych am swyddi ar-lein, lle daeth ar draws Prentisiaeth Itec, gan gynnig contract cyflogaeth amser llawn gydag EE, yn ogystal â chymhwyster mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2.
Dwedodd Brandon, “Dwi bendant wedi newid llawer ers i mi dechrau gweithio yma 100%, dwi di tyfu llawer fel person”
Ers dechrau ei brentisiaeth mae Brandon wedi ennill amrywiaeth anhygoel eang o sgiliau a phrofiadau yn y swydd ac mae hyd yn oed wedi cael ei ddewis fel llefarydd i ymweld ag Ysgol Uwchradd leol, lle mae wedi siarad â’u disgyblion am ymuno â phrentisiaeth a sut beth yw gweithio ar gyfer EE.
Arweiniodd hyn wedyn at gyfle arall, lle mae Brandon yn gweithio’n agos gydag 8 disgybl 14-15 oed, sy’n cael trafferth gyda’r ysgol ar hyn o bryd. Mae’r disgyblion yn dod i mewn i gwrdd â Brandon bob pythefnos ac yn cael treulio diwrnod ym mywyd prentis. O’r profiad hwn, mae’r holl ddisgyblion bellach yn gweithio’n agos gydag EE i ymuno â’r cwmni fel prentisiaid pan fyddant yn gorffen yr ysgol.
Dwedodd Brandon i ni,“Mae’r cyfleoedd eu hunain wedi gwneud y brentisiaeth yn werth chweil”
Yn y fisoedd diweddar, mae Brandon wedi gweld y cyfleoedd dilyniant o fewn y cwmni ac mae ganddo lwybr clir o sut y gall dyfu ei yrfa yn y busnes. Eisoes mae wedi cael cyfleoedd i ‘llawr gerdded’ prentisiaid newydd gan ddechrau gyda’r cwmni ac mae’n dechrau gweithio gyda’r swyddogion ar ddyletswydd a goruchwylwyr eraill.
Eglurwyd Brandon, “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael yr holl gyfleoedd hyn a dydw i ddim hyd yn oed wedi gorffen fy mhrentisiaeth eto!”
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.