Boglárka Tunde Incze
Dewch i gwrdd â Boglárka, a gyrhaeddodd rownd derfynol World Skills UK.
Mae Boglárka Tunde Incze a gwblhaodd Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiweddar wedi bod yn edrych i ddod yn ôl i wneud ei Lefel 3 yma yn Itec. Nid yn unig y mae Boglárka wedi cwblhau’r cymwysterau hyn, ond mae hefyd wedi cyflawni Lefel 2 a 3 ar gyfer CRh a Chyfathrebu. Yn ystod Covid, llwyddodd i gwblhau tystiolaethau tystion arbenigol yn rhwydd.
Saesneg yw ail iaith Boglárka, ond nid yw hi erioed wedi gadael i hyn ddod yn rhwystr ac mae hefyd wedi bod yn ddysgwr Cymraeg ers dros bum mlynedd. Cyfaddefodd hi,
“Mae’n rhaid i mi weithio’n galetach na phawb arall i brofi fy mod yn gallu bod mewn rhai swyddi a rolau.”
Fodd bynnag, mae ei holl waith caled yn dwyn ffrwyth gan ei bod hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth World Skills UK ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hi hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Prentis y Flwyddyn, gyda Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
“Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth bod gofal cymdeithasol yn llawer, llawer mwy nag y mae pobl yn ei feddwl.”
Ar ôl cael gyrfa mewn Marchnata TG yn flaenorol, mae Boglárka yn profi bod unrhyw beth yn bosibl ar ôl ei holl gyflawniadau gwych gyda chymorth Itec.
Yn ogystal, mae Boglárka yn dymuno bod yn eiriolwr i’r rhai sy’n ymwneud ag Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ddweud:
“Fe wnes i addo i mi fy hun os ydw i’n mynd i gyrraedd y rownd derfynol, rwy’n gobeithio y bydd modd gwrando arnaf oherwydd rwyf am eirioli’r ddwy ochr. Y defnyddwyr gwasanaeth, yr hyn y maent yn ei deimlo ac yn ei brofi, ond rwy’n adnabod y gofalwyr, y frwydr o ein hochr ni, y problemau iechyd meddwl, dim cefnogaeth, yr oriau hir; a gobeithio y bydd rhywun, yn rhywle, yn gwrando ac yn gwneud newid.”
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.