Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Mae Itec yn cyflawni Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.

Rydym yn ymdrechu i fod yn lle amrywiol a chynhwysol i weithio ynddo. Ein huchelgais yw gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo amgylchedd cynhwysol, sy’n denu pob ymgeisydd ac yn arwydd o’n hymrwymiad i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth. Rydym wedi cynnal hunanasesiad yn erbyn y safon a gafodd ei adolygu wedyn gan aseswr allanol. Dilysodd hyn ein hunanasesiad fel adlewyrchiad cywir o sut rydym yn cyrraedd y safon a chawsom ein cadarnhau fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ym mis Medi 2021.

Yn dilyn y broses gadarn hon, gallwn nawr gefnogi cyflogwyr eraill i gofrestru i’r safon ar bob un o’r 3 lefel. Rydym yn annog cyflogwyr a sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i gofrestru ar gyfer y cynllun. I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Hyderus o ran Anabledd, ewch i https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign.

Yma gallwch ddarganfod mwy am y 3 lefel: Ymrwymedig, Cyflogwr ac Arweinydd.

Os hoffai unrhyw sefydliad gael cefnogaeth gan Itec i gyrraedd y safon, byddem yn hapus i drafod eich gofynion. Anfonwch e-bost at enquiries@itecskills.co.uk am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.