Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £18.7m pellach i gefnogi busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7m pellach i gefnogi busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru.

“Mae’n wych gweld buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prentisiaethau i greu gweithlu medrus a hyblyg. Rydym ni yn Itec wedi ymrwymo i gefnogi cyflogwyr i fanteisio ar y cyfle hwn i dyfu a buddsoddi yn ei bobl er lles eu busnes ac economi Cymru”. – James Manners, Pennaeth Prentisiaethau yn Itec.

Bydd y Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr nawr yn rhedeg tan 30 Medi ac mae’n rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau a gweithwyr i wella ar ôl effeithiau’r pandemig Cofid-19.

Wedi’i lansio ym mis Awst 2020, mae’r cymhellion eisoes wedi gweld mwy na 1,300 o brentisiaid newydd yn cael eu recriwtio. Bydd yr estyniad a buddsoddiad pellach yn golygu y bydd busnesau’n gallu hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd y maent yn ei logi o dan 25 oed.

Bydd y cymhelliad hwn o £4,000 ar gael i fusnesau sy’n cyflogi prentis 16-24 oed am o leiaf 30 awr yr wythnos. Gallai busnesau Cymreig hefyd dderbyn £2,000 am bob prentis newydd dan 25 oed y maent yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos, sy’n gynnydd o £500.

Ar gyfer prentisiaid 25 oed a hŷn, gall busnesau gael mynediad at £2,000 am bob prentis newydd y maent yn ei logi ar gontract 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 i brentisiaid sy’n gweithio llai na 30 awr.

Mae cyllid pwrpasol hefyd ar gael i recriwtio pobl anabl ac ar gyfer gweithwyr a gollodd swydd prentisiaeth flaenorol oherwydd coronafeirws.

Mae ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru, ‘Rydym yn Eich Cornel’, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, hefyd yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar gymorth recriwtio a sgiliau ar gyfer gweithwyr newydd a phresennol sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnesau.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y cymhellion sydd ar gael ar gyfer llogi prentis, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am y llwybrau hyfforddi a phrentisiaeth rydyn ni’n eu cynnig, cysylltwch â’n tîm datblygu busnes heddiw trwy naill ai gysylltu â ni yma neu galwch 02920 663800.

A man in a warehouse setting. He has a trolley of boxes on it.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.