Gweinyddwr – Therapi Galwedigaethol
Gweinyddwr – cyfle Therapi Galwedigaethol. Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer pobl ifanc 16-19 sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn.
Swydd ar Gael: Gweinyddwr – Therapi Galwedigaethol
Lleoliad: Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Cyflogwr:
GIG
Oriau Gwaith:
Rhan-Amser
Cyflog:
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Crynodeb o'r Rôl
Byddwch yn aelod gwerthfawr o’r tîm Therapi Galwedigaethol (OT) ac yn gweithio’n agos gyda’r ysgrifenyddion Therapi Galwedigaethol Band 3 ar safle YBM. Byddwch yn cael y cyfle i ennill profiad mewn ystod o dasgau gweinyddol cyffredinol mewn lleoliad gofal iechyd prysur, gan ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, yn ogystal â sgiliau TG gan ddefnyddio pecyn Microsoft a systemau gwybodaeth glaf.
Nod y rôl hon yw darparu cymorth gweinyddol i’r Tîm Therapi Galwedigaethol Clinigol a’r Prif Therapyddion Galwedigaethol, gan eu galluogi i reoli’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a’r adran glinigol yn effeithiol ac yn effeithlon, fel y gallwn ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion.
Cyfrifoldebau
- Ateb galwadau ffôn a chofnodi’r wybodaeth yn llyfr negeseuon yr adran neu drwy e-bost
- Casglu a dosbarthu post mewnol ac allanol ar gyfer yr adran
- Llungopïo cyffredinol, ffeilio a chael gwared ar ddogfennau cyfrinachol yn briodol
- Galw a dychwelyd nodiadau meddygol
- Llenwi nodiadau therapi galwedigaethol yn nodiadau meddygol cleifion
- Coladu a mewnbynnu data cleifion megis atgyfeiriadau i gofnodion cleifion electronig (e.e. Myrddyn) a diweddaru data therapi galwedigaethol ar daenlenni Excel
- Cysylltu a threfnu apwyntiadau, gan gofnodi ar systemau cofnodi priodol
- Adolygu a chynnal lefelau stoc ar gyfer unrhyw ddeunydd sydd ei angen ar gyfer sesiynau hyfforddi (trin yn fwy diogel, agendâu/copïau o gofnodion)
- Adolygu a chynnal lefelau stoc ar gyfer unrhyw ddeunydd sydd ei angen ar gyfer nodiadau therapi galwedigaethol cleifion (e.e. argraffu taflenni asesu/cardiau cyfeirio, coladu pecynnau gwybodaeth)
- Teipio fel cefnogi’r tîm gyda dogfennau Word neu gyflwyniadau PowerPoint
- Deall a dilyn prosesau a gweithdrefnau’r adran lle bo’n berthnasol
- Cefnogi cydweithwyr gweinyddol eraill yn ôl yr angen ac yn briodol ar y safle